Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017

 

 

Ymateb i’r Pwyntiau Adrodd Craffu Technegol

 

Pwyntiau 1 a 2:        Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg:

 

Derbynnir y ddau bwynt adrodd. Nid yw'r testun Cymraeg a’r testun Saesneg yn gyfwerth. Bydd y pwyntiau hyn yn cael eu hystyried drachefn mewn unrhyw orchmynion cyflogau amaethyddol a wneir yn y dyfodol.

 

Pwynt 3:          Rheol Sefydlog 21.2 (i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires; Rheol Sefydlog (iv) – ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw’r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn.

 

Nid yw’r pwynt adrodd hwn yn cael ei dderbyn. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod effaith ôl-weithredol Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 yn gyfreithlon.

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr offeryn yn gydnaws ag Erthygl 1 o Brotocol 1 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ystyrir bod yr offeryn yn taro cydbwysedd teg rhwng hawliau unigolion a’r budd cyffredinol a’i fod yn gymesur.